Page 1

Mae Prifysgol De Cymru yn gweithredu gwasanaeth cwnsela ar ran Cyngor Dinas Casnewydd yn ysgol eich plentyn. Oni bai eich bod wedi gofyn am hyn ar gyfer eich plentyn, rydym naill ai wedi derbyn atgyfeiriad gan athro/athrawes neu mae eich plentyn wedi gofyn yn benodol am gwnsela.

Gall blentyn dderbyn hyd at 9 sesiwn o gwnsela gyda chwnselydd dan arolygiaeth yn ystod amser ysgol. Bydd pob sesiwn yn para tua 40 i 50 munud. Bydd y plentyn yn cael ei annog i weithio trwy ei bryderon gan ddefnyddio amrediad o weithgareddau. Lle bo'n bosib, mae'r broses hefyd yn ceisio cynorthwyo'r plentyn i adeiladu ar ei gryfderau ac, o bosib, i ddod o hyd i ddatrysiadau i'w pryderon.

Bydd yr apwyntiadau'n gyfrinachol oni bai ei bod yn dod yn amlwg bod eich plentyn neu rywun arall mewn perygl o niwed arwyddocaol. Yn yr achosion hyn, fe roddir sicrwydd i'ch plentyn y bydd y penderfyniadau gorau yn cael eu gwneud mewn perthynas â'u diogelwch neu ddiogelwch pobl eraill. Os oes angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol ar eich plentyn, bydd hyn yn cael ei drafod yn ystod y sesiynau a bydd ymrwymiad rhieni'n cael ei annog er mwyn cyrraedd yr opsiynau gorau i fodloni anghenion unigol y plentyn. Cynhelir y sesiynau cwnsela mewn ystafelloedd preifat lle mae'ch plentyn a'r cwnselydd yw'r unig bobl yn bresennol. Er mwyn sicrhau bod arferion gorau yn cael eu dilyn, mae cwnselwyr yn derbyn goruchwyliaeth glinigol reolaidd ynghyd â chyfarfodydd rheolaidd â'u rheolwr llinell. Mae pob cwnselydd yn cael gwiriad diogelwch manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bob blwyddyn.  

Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd

 

(dd/mm/bbbb)

(dd/mm/bbbb)

Gallwch ni allwch ddychwelyd i'r dudalen hon.